Astudiaethau Achos
Cwmni Bragdy Hurns Cyf
Mae teithiau masnach wedi arwain at gynnydd o 10 y cant yn nhrosiant bragdy yn Abertawe, Cwmni Cwrw Hurns Cyf, tra bod ei berthynas â Phartneriaeth Bae Abertawe hefyd wedi codi ei broffil yng Nghymru.
Cafodd Hurns ei arbed rhag cau pan brynwyd y cwmni gan frawd a chwaer, Phil a Connie Parry, yn 2002. Drwy flynyddoedd o waith caled a phenderfyniad, mae’r pâr wedi creu brand o’r radd flaenaf o ran cwrw, lager a seidr Tomos Watkin.
Quantum Cad
Mae Quantum CAD ym Mhort Talbot yn un o lwyddiannau’r rhanbarth, gan dyfu ers adleoli i Gymru yn 2004 a dod yn un o brif arbenigwyr darparu gwasanaethau ac atebion Dylunio PCB parod a digenadwy yn Ewrop.
Ers ei sefydlu ym 1994, mae Quantum CAD wedi cyflwyno gwasanaethau dylunio Byrddau Cylched Printiedig (PCB) arbenigol i lawer o Gynhyrchwyr Offer Gwreiddiol (OEM) sglodion glas y diwydiant electroneg, gan ganolbwyntio ar electroneg fodurol, amddiffyn, awyrennau, ffonau symudol, meddygol a defnyddwyr.
Cwmni Cyfieithu Wolfestone
Ar ôl i Anna Bastek, o Gwmni Cyfieithu Wolfestone, ennill teitl Menyw y Flwyddyn Bae Abertawe yn 2009 – gwobr a grëwyd gan Bartneriaeth Bae Abertawe – arweiniodd yn uniongyrchol at nifer o gontractau busnes newydd, yn ogystal â chodi proffil y cwmni’n sylweddol.
Mae Cwmni Cyfieithu Wolfestone yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyfieithu traddodiadol ac arloesol, ac mae’n ceisio darparu mwy na’r hyn y mae asiantaeth gyfieithu gyffredin yn ei ddarparu wrth godi safonau’r diwydiant cyfieithu yn gyffredinol.
Adwell Foods Cyf (Paned Gymreig)
Mae teithiau masnach Partneriaeth Bae Abertawe wedi ychwanegu cannoedd o filoedd o bunnau i Gwmni Bwyd Adwell Cyf yma yn Abertawe, yn ôl y cyfarwyddwr, Alan Wenden.
Cysylltodd Cwmni Bwyd Adwell â Phartneriaeth Bae Abertawe am y tro cyntaf yn 2001, pan sylweddolodd y cwmni ei fod yn barod i allforio i farchnadoedd rhyngwladol. Roedd y cwmni teuluol wedi datblygu ei frand te, Paned Gymreig, yn llwyddiannus yng Nghymru dros 10 mlynedd a theimlo bod yr amser yn iawn i ddatblygu ochr allforio’r busnes.
Corgi Hosiery Cyf
Mae Corgi Hosiery Cyf o Rydaman wedi gallu datblygu ei bortffolio allforio gyda chymorth teithiau masnach Partneriaeth Bae Abertawe, tra bod cydnabyddiaeth ar ffurf gwobrau gan y sefydliad wedi helpu i hyrwyddo’r cwmni’n lleol.
Mae hanes Corgi Hosiery yn dyddio yn ôl i 1890, pan agorodd masnachwr o Sir Benfro, Rhys Jones, warws bach ar Stryd y Gwynt, Rhydaman. O’r cefndir diymhongar hwn, mae Corgi Hosiery wedi mynd o nerth i nerth, a bellach mae’n fusnes cynhyrchu llwyddiannus a redir gan deulu, sy’n cyflogi nifer sylweddol o bobl leol yn y pencadlys yn Rhydaman.

