Y Prosiect Ynni Gwynt Register Interest
Datblygiad 76 tyrbin yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yw Prosiect Ynni Gwynt Pen y Cymoedd, a ddatblygir gan Vattenfall.
Mae Vattenfall yn un o brif gwmnïau ynni Ewrop. Ef yw chweched cynhyrchydd trydan Ewrop a chynhyrchydd gwres mwyaf y cyfandir. Yn dilyn integreiddio Nuon Renewables tua dechrau 2012, mae bellach yn un o brif ddatblygwyr ffermydd gwynt y DU.
Mae’r prosiect hwn hefyd yn rhan o Raglen Ynni Gwynt Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n gweithio i gyflawni targed Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
Mae’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect yn benderfynol o ddatblygu prosiect ynni cynaliadwy sy’n dod â budd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i’r rhanbarth.
Statws Presennol
Ym mis Mai 2012 cafodd y prosiect ganiatâd cynllunio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni. Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn gweithhio gyda’r awdurdodau lleol a’r Adran Ynni a Hinsawdd i ryddhau’r amodau cynllunio perthnasol cyn adeiladu.
Cyfleoedd Busnes
6 Chontract a Maes Gweithio Allweddol
- Contract y Grid
- Contract Gweddill yr Orsaf (Gwaith Sifil)
- Contract Gweddill yr Orsaf (Trydanol)
- Contract Cyflenwi Tyrbinau
- Gwasanaethau Cyffredinol
- Gweithredu a Chadw a Chynnale
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: